Cyflwyniad gan

Cyfoeth Naturiol Cymru

      

 

 

 

 

 

Crynodeb

 

·         Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cyflwyno targedau statudol i awdurdodau lleol ar adennill gwastraff. Gyda’i gilydd cyrhaeddodd awdurdodau lleol Cymru’r targed cyntaf o 52 y cant yn 2012-13.

·         Rydym yn gefnogol iawn o’r bwriad yng nghynigion LlC i leihau swmp y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi, cynyddu’r cyfraddau ailgylchu a gwella ansawdd deunyddiau eildro a gwnaethom ymateb yn gadarnhaol i’r cynigion hyn yn ymgynghoriad LlC yn ddiweddar ynghylch Bil yr Amgylchedd.

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi monitro canlyniadau’r gwasanaeth ailgylchu er 2004/05 drwy ei swyddogaethau statudol. Gyda datblygiadau deddfwriaethol arwyddocaol pellach i ddod i rym yn ddiweddarach eleni a fydd yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau ailgylchu, efallai ei bod yn rhy gynnar i lwyr asesu canlyniadau cymharol y gwahanol fathau o wasanaethau ailgylchu sy’n cael eu darparu gan awdurdodau lleol.

·         Mae amseriad cymharol darparu canllawiau manwl Llywodraeth Cymru (LlC) a’r rheidrwydd i ddatblygu’r gwasanaeth ailgylchu wedi cyfrannu at y sefyllfa a welwn heddiw lle mae amrywiadau mawr yn y dulliau cyflenwi gwasanaeth.

 

1.    Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru

 

1.1      O’r 1af Ebrill daeth Cyfoeth Naturiol Cymru â gwaith Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru ynghyd, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru. Ein diben yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu defnyddio a’u gwella mewn modd cynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.

 

1.2      Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am reoleiddio’r diwydiant gwastraff ac mae’n brif gynghorydd i LlC, yn gynghorydd i ddiwydiant a’r cyhoedd ehangach a’r sector gwirfoddol, ac yn gyfathrebwr sy’n ymdrin â materion yn ymwneud â’r amgylchedd a’i adnoddau naturiol.

 

1.3      Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod monitro dynodedig o ran Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 a Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004. Rydym yn dilysu data’r awdurdodau lleol yn chwarterol drwy gyfres o wiriadau ansawdd data. Mae’n trefn ddilysu yn cynnwys traws wirio yn erbyn WasteDataFlow a data datganiadau safle am dirlenwi, ynghyd â cheisiadau am dystiolaeth gan yr awdurdodau lleol am dynged derfynol y gwastraff y maent wedi’i adennill.

 

1.4      Diben y Cynllun Lwfansau Tirlenwi yw sicrhau bod awdurdodau lleol yn dargyfeirio gwastraff trefol pydradwy o dirlenwi. Caiff ein mesur i ddangos cywirdeb data ei gyhoeddi’n flynyddol yn Adroddiad CNC ar Gynllun Lwfansau Tirlenwi Cymru[1]. Mae’r adroddiad yn manylu ar brydlondeb data a dderbynnir oddi wrth yr awdurdodau lleol yn unol â’r terfynau amser cyflwyno data.

 

1.5      Mae’r Targedau Adennill i Awdurdodau Lleol yn rhoi mwy o bwyslais ar i awdurdodau lleol Cymru adennill rhagor o’r deunyddiau sy’n cael eu casglu a chyflwyno data cywir am y cyfleusterau didoli canolradd, y cyfraddau gwrthod a’r cyrchfannau. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ganfod a nodi cyrchfannau’r gwastraff maen nhw’n ei gasglu, fel mai dim ond deunyddiau sydd mewn gwirionedd wedi cael eu hailgylchu, eu paratoi i gael eu defnyddio neu’u compostio sy’n cael eu cynnwys wrth iddynt gyfrifo’u cyfraddau adennill. Rydym yn dilysu’r datganiadau data gwastraff a gyflwynir yn chwarterol gan awdurdodau lleol Cymru. Ar ôl iddo gael ei ddilysu mae’r data’n cael ei gyhoeddi ar StatsCymru bob chwarter. Er mwyn i’r awdurdodau lleol gyrraedd y targedau adennill, mae gofyn iddynt ddarparu tystiolaeth ategol inni fod y gwastraff y maent wedi’i ddargyfeirio wedi bodloni’r meini prawf perthnasol. Rydym yn darparu Adroddiad ar Dargedau Adennill Awdurdodau Lleol i LlC sy’n crynhoi’r gwaith dilysu ychwanegol a wneir yn ystod blwyddyn cynllun.

 

1.6      Rydym hefyd yn gweithio gydag eraill i gynyddu ffydd y farchnad yn ansawdd y cynhyrchion sy’n cael eu gwneud o wastraff a thrwy hynny yn annog rhagor o adennill ac ailgylchu, er enghraifft drwy ddatblygu protocolau ansawdd.

 

1.7      Ni hefyd yw’r rheoleiddiwr o ran y newidiadau diweddar i’r fframwaith rheoleiddio mewn perthynas â Chyfleusterau Adennill. Rhaid i weithredwyr cyfleusterau adennill ein hysbysu os ydynt yn gymwys ar gyfer yr amod trwyddedu newydd (hunanasesu), a rhaid iddynt ddechrau cyflwyno gwybodaeth samplu benodol inni o 1af Hydref 2014 i ni ei chyhoeddi fel rhan o’n cofrestr gyhoeddus.

 

2.    Y Sefyllfa Gyfredol

 

2.1      Cyrhaeddodd cyfanswm y gwastraff trefol a gynhyrchwyd o fewn awdurdodau lleol Cymru, ar wahân i gerbydau gadawedig, ei lefel uchaf yn 2004-05, ar fwy nag 1.9 miliwn tunnell. Mae wedi gostwng yn gyson ers hynny; cynhyrchwyd 1.55 miliwn tunnell yn 2012-13. Yn ddiweddar cyhoeddwyd canlyniadau arolwg gennym a oedd yn amcangyfrif bod y gwastraff diwydiannol a masnachol a gynhyrchwyd yn 3.7 miliwn tunnell a’r gwastraff adeiladu a dymchwel a gynhyrchwyd yn 3.4 miliwn tunnell yng Nghymru yn 2012. Mae’n werth nodi felly fod y gwastraff trefol sy’n cael ei gynhyrchu gan awdurdodau lleol yn llai nag un rhan o bump o’r holl wastraff sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru.

 

2.2      Yn 1998-99 dim ond 5 y cant o holl wastraff trefol awdurdodau lleol yng Nghymru a gasglwyd i gael ei baratoi i’w ailddefnyddio, ei ailgylchu neu’i gompostio. Mae hyn wedi codi i fwy na hanner yr holl wastraff a gasglwyd gan awdurdodau lleol Cymru yn 2012-13. Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd wedi cyflwyno targedau adennill statudol i awdurdodau lleol o ran ailgylchu gwastraff a, chyda’i gilydd, cyrhaeddodd awdurdodau lleol Cymru’r targed cyntaf o 52 y cant yn 2012-13. Yn unigol, roedd 13 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi cyrraedd y targed 52 y cant yn 2012-13 neu wedi rhagori arno. Mae Atodiad 1 yn dangos perfformiad pob awdurdod lleol yn erbyn targed 2012-13.

 

2.3      Mae Cymru wedi lleihau swmp y gwastraff trefol pydradwy (bwyd, papur a gwastraff gardd) sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi 57 y cant dros wyth mlynedd lawn ddiwethaf y Cynllun Lwfansau Tirlenwi. Mae hyn yn dangos yn glir fod gwaith gan awdurdodau lleol Cymru i leihau swmp y gwastraff pydradwy sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi yn llwyddo. Mae Atodiad 2 yn dangos perfformiad pob awdurdod lleol o dan y Cynllun Lwfansau Tirlenwi yn 2012-13.

 

2.4      Mae gan LlC lawer o bolisïau yn ei strategaeth wastraff, “Tuag at Ddyfodol Diwastraff”. Ei nod yw cynyddu’r cyfeintiau gwastraff sy’n cael eu hailgylchu a gwella ansawdd y deunyddiau eilaidd sy’n cael eu cynhyrchu o ganlyniad. Mae un elfen allweddol yn cael ei thargedu tuag at wella’r defnydd o ddeunyddiau crai eilaidd (gwastraff wedi’i ailgylchu) mewn diwydiant yng Nghymru a symud tuag at economi gylchol lle mae pob deunydd gwastraff yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na’i waredu.

 

2.5      Mae LlC wedi targedu’r gwastraff sy’n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol yn gyntaf. Y rheswm am hynny yw’r lefel uchel o reolaeth sydd gan lywodraeth dros y ffrwd wastraff hon – mae hynny oherwydd y cydbwysedd rhwng arian sy’n cael ei ddarparu i lywodraeth leol gan LlC o’i gymharu â thaliadau’r dreth gyngor, ac arian grant ychwanegol wedi’i neilltuo – elfennau fel y Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy blynyddol. I’r sector preifat, deddfwriaeth gwastraff yw prif gyfrwng dylanwad llywodraeth a rhaid ystyried yr effaith ar dwf economaidd.

 

3.         Ystyriaethau

 

3.1      Mae Glasbrint Casgliadau Cynllun Sector Gwastraff Trefol LlC a gyhoeddwyd yn 2011 yn nodi’r proffil gwasanaeth sy’n cael ei argymell o ran casglu gwastraff aelwydydd. Fodd bynnag, roedd llawer o awdurdodau lleol eisoes wedi dechrau darparu gwasanaeth ailgylchu flynyddoedd lawer cyn hynny er mwyn cydymffurfio â gofynion i ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi o dan Reoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004. Mae hyn wedi golygu bod pob awdurdod lleol yn cyflenwi gwasanaethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae LlC yn cynnig y cyfle i bob awdurdod lleol i gymryd rhan mewn Rhaglen Newid Gydweithredol o ran cyflenwi gwasanaethau. Nod y rhaglen yw sicrhau bod Cymru’n cyrraedd y targedau ailgylchu uchel a nodwyd yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff ac yn dilyn model cyflenwi’r Glasbrint Casgliadau.

 

3.2      Gall costau newid y math o wasanaeth casglu gwastraff ailgylchu fod yn sylweddol o ystyried darparu biniau a bocsys ynghyd â’r cerbydau casglu arbenigol. Mae’r costau hyn, ynghyd ag ystyriaethau ymarferol cyflwyno gwasanaeth newydd (h.y. rhoi gwybod i drigolion am y newidiadau) yn golygu ei bod yn cymryd cryn lawer o amser i roi newidiadau ar waith ar draws ardal gyfan awdurdod lleol. Hefyd, hyd yn oed ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth newydd, bydd yna ystyriaethau lleol lle na fydd efallai yn bosibl darparu’r un gwasanaeth casglu i bob annedd o fewn awdurdod lleol, er enghraifft, mewn ardaloedd dwys eu poblogaeth (h.y. fflatiau) ac ardaloedd gwasgaredig eu poblogaeth (h.y. ardaloedd gwledig).

 

3.3      Mae newidiadau diweddar i’r fframwaith rheoleiddio mewn perthynas â Chyfleusterau Deunyddiau, sy’n dod i rym ar 1af Hydref 2014, a darpariaethau’n ymwneud â chasglu deunyddiau ar wahân i’w hailgylchu, sy’n dod i rym ar 1af Ionawr 2015, yn berthnasol i’r ystyriaethau y mae a wnelo’r ymchwiliad hwn â nhw. Effaith y rheoliadau hyn fydd cynyddu tryloywder y cyfraddau gwrthod ac ansawdd y deunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu gan bob cyfleuster deunyddiau, ynghyd ag ansawdd y deunyddiau sy’n cael eu cyflenwi gan bob cyflenwr. Bydd hyn yn galluogi awdurdodau lleol i dargedu’u cyngor i ddeiliaid tai yn well er mwyn gwella ansawdd y deunyddiau maen nhw’n eu danfon i gyfleusterau deunyddiau i gael eu didoli. Byddant hefyd yn gallu dewis pa gyfleusterau deunyddiau i’w defnyddio ar sail y dystiolaeth ynglŷn ag effeithlonrwydd eu harferion didoli. Fodd bynnag, yn ein barn ni mae’n rhy gynnar i ddadansoddi sut bydd hyn yn newid arferion o ystyried nad yw’r datblygiadau rheoleiddio wedi cael eu rhoi ar waith eto.

 

3.4      Mae data hanesyddol am y ddarpariaeth gwasanaethau ar gael drwy WasteDataFlow. O 2005-2012 casglwyd set fach o ddata ynglŷn â’r mathau o ddarpariaeth gwasanaethau yr oedd awdurdodau lleol yn ei darparu o ran gwastraff sych, gweddilliol a chompostiadwy. Fodd bynnag, nid oedd ffurf y data wedi’i ddylunio’n dda, gan arwain at amwysedd yn y data a ddarparwyd. Roedd y dull casglu hefyd yn anhyblyg, a olygai nad oedd awdurdodau’n gallu disgrifio amrywiaethau traws-awdurdod yn y ddarpariaeth gwasanaethau. Yn 2012 cafodd y set ddata hon ei hailddatblygu er mwyn ei gwella a’i hehangu. Ar hyn o bryd, elfen ddewisol yw darparu’r set ddata hon i’r awdurdodau lleol, oherwydd yr adnodd ychwanegol y mae ei angen arnynt i gyflwyno gwybodaeth ar sail y targedau adennill statudol o 2012-13 ymlaen. Byddwn yn dechrau dilysu’r data hwn am flwyddyn adrodd 2014-15. Fodd bynnag, nid oes modd mesur darpariaeth gwasanaethau awdurdodau lleol yn llawn yn erbyn glasbrint casgliadau LlC drwy ddefnyddio’r set ddata hon yn unig.

 

3.5      Fel yr awdurdod monitro i’r Cynllun Lwfansau Tirlenwi a Thargedau Adennill Awdurdodau Lleol yng Nghymru, rydym yn gallu cyrchu at y data perfformiad sy’n cael ei ddarparu gan yr awdurdodau lleol drwy system adrodd WasteDataFlow. Er ei bod yn hawdd cael gafael ar y tunelli a’r canrannau, nid oes gwybodaeth am y dulliau casglu a ddefnyddiwyd gan awdurdodau lleol ar gael yn hwylus drwy WasteDataFlow yn unig, a c mae’n anodd perthnasu hyn i’w perfformiad ailgylchu. Fodd bynnag, gwyddom fod Rhaglen Weithredu’r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) yn dadansoddi data WasteDataFlow ymhellach a’i bod yn casglu data ychwanegol am y ddarpariaeth gwasanaethau. Mae’r wybodaeth hon ar gael i’r awdurdodau lleol ar gyfer meincnodi, a hefyd i’r cyhoedd. Mae’n cynnwys data manylach am y ddarpariaeth gwasanaethau, ac mae hefyd yn cynnwys y cynnyrch fesul deunydd. Mae’r set ddata hon ar gael am y 3 blynedd diwethaf o leiaf drwy borthol WRAP (http://laportal.wrap.org.uk/).

 

3.6      Mae awdurdodau lleol yn cofnodi’r mewnbwn/allbwn o bob cyfleuster deunyddiau y maen nhw’n anfon gwastraff iddo ar WasteDataFlow. Drwy ddefnyddio’r data hwn mae’n bosibl cyfrifo cyfradd wrthod ar gyfer llif gwastraff pob awdurdod lleol drwy bob cyfleuster. Yn ystod 2012-13 fe gynhalion ni ymarferiad cwmpasu er mwyn deall y mathau o wybodaeth yr oedd awdurdodau lleol yn eu cael ynglŷn â’r cyfraddau gwrthod oedd yn cael eu cofnodi ar gyfer pob cyfleuster. Byddwn yn parhau â’r ymarferiad hwn yn y blynyddoedd i ddod er mwyn monitro gwelliannau yn y data sy’n cael ei roi i awdurdodau lleol gan gyfleusterau deunyddiau. Maes o law bydd y newidiadau i’r fframwaith rheoleiddio, sydd ar fin cael eu cyflwyno mewn perthynas â chyfleusterau deunyddiau, yn help inni wella’n trefniadau i ddilysu’r cyfraddau gwrthod a nodir i awdurdodau lleol gan gyfleusterau deunyddiau o safbwynt Targedau Adennill Awdurdodau Lleol.

 

4.    Sialensiau i’r Dyfodol

 

4.1      Mae’r Targedau Adennill statudol i awdurdodau lleol yn mynd i fyny i 70% yn 2024-25. Os yw awdurdodau lleol i gyrraedd targedau mwyaf heriol Tuag at Ddyfodol Diwastraff, rhaid iddynt gynnal y momentwm o ran cynyddu’r cyfraddau paratoi i ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio. Bydd cynnydd cyson yn anodd i’r awdurdodau lleol gan fod llawer ohonynt eisoes wedi gwneud y rhan fwyaf o’r newidiadau ffisegol angenrheidiol drwy ddarparu cyfleusterau ailgylchu a chynnig gwell gwasanaethau rheoli gwastraff. Mae newidiadau pellach llai yn dal yn bosibl, ond mae’r rhan fwyaf o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol eisoes wedi cael eu gwneud. Mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod gwneud mwy o ran gwastraff bwyd yn un maes o’r fath sydd â photensial sylweddol i wella cyfraddau ailgylchu aelwydydd, a dylid felly canolbwyntio arno.

 

4.2      Mae perswadio rhagor o bobl i gymryd rhan mewn ailgylchu yn flaenoriaeth. Rhywbeth gwirfoddol i’r cyhoedd yw cymryd rhan mewn ailgylchu; prin yw’r cymhellion, ac mae’r cosbau’n brinnach fyth. Mae’r her i Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yn sylweddol o ran cynyddu dealltwriaeth, herio canfyddiadau a newid ymddygiad deiliaid tai. Er enghraifft, mae dryswch o hyd ynglŷn â pha fathau o ddeunyddiau, fel plastigau, y gellir eu hailgylchu. Mae angen cyngor clir, syml a chyson ar ddeiliaid tai er mwyn iddynt barhau i ymroi a deall pwysigrwydd cymryd rhan. Hefyd, daw’r her hon ar adeg o bwysau economaidd cynyddol ar bawb.

 

4.3      Er bod cynyddu’r cyfraddau cyfranogi yn bwysig, mae’n hanfodol fod mecanweithiau a dulliau sbarduno yn cael eu rhoi ar waith i annog atal ac ailddefnyddio gwastraff, fel sy’n cael ei gydnabod yn rhaglen atal gwastraff LlC. Mae gan weithgynhyrchwyr rôl i helpu deiliaid tai i atal gwastraff drwy ddylunio cynnyrch yn y fath ffordd fel nad yw’n cynnwys gwastraff, yn ogystal â sicrhau bod modd i ddeiliaid tai ailddefnyddio’u cynnyrch a’u deunyddiau neu’u hailgylchu’n eang ar ôl gorffen eu defnyddio. Rhaid i awdurdodau lleol a chyrff sector cyhoeddus eraill, yn gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, sicrhau eu bod yn cymryd camau i ddylanwadu ar gaffael cynaliadwy fel bod cyn lleied â phosibl o wastraff yn flaenoriaeth. Rhaid i Gymru greu economi gylchol sy’n symud oddi wrth y model llinol cyfredol, lle caiff deunyddiau eu bwydo i’r economi ar y dechrau a’u gwaredu ar y diwedd.

 

4.4      Rhaid bod yn ofalus i sicrhau nad yw’r ymgyrch i gyrraedd Targedau Adennill Awdurdodau Lleol yn arwain at ganlyniadau amgylcheddol ac economaidd gwrthnysig. Er enghraifft, gallai problemau o’r fath ddeillio, yn rhannol, o’r diffyg cyfleusterau trin amgen addas yng Nghymru ac yn ehangach. Gallai hyn gael ei ddwysáu gan anghysondeb rhwng cyflymdra targedau ailgylchu uchel a’r ddarpariaeth cyfleusterau gwastraff sydd ar gael a chan y diffyg canllawiau addas i awdurdodau lleol fel eu bod yn deall yr opsiynau dilys sy’n agored iddynt. Er ein bod yn gryf ein cefnogaeth i egwyddorion adennill gwastraff a’r buddion clir sy’n deillio i economi ac amgylchedd Cymru drwy ailgylchu gwastraff yn briodol fel adnodd, dim ond yng nghyd-destun rheoli gwastraff yn briodol, gyda mesurau diogelu amgylcheddol angenrheidiol, y gellir cyflawni hyn.

 

Byddem yn croesawu’r cyfle i ddarparu tystiolaeth lafar pe bai Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ein gwahodd i wneud hynny ym mis Gorffennaf 2014.

 

I gael rhagor o wybodaeth

 

Cysylltwch ag Isobel Moore, Pennaeth Busnes, Rheoleiddio ac Economeg

Cyfoeth Naturiol Cymru

Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd

Caerdydd CF24 0TP

02920 466118

 

Isobel.Moore@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

 

 

 

 

 


 

Atodiad 1 – Perfformiad Awdurdodau Lleol yn erbyn y Targedau Adennill (LART) 2012-13

 

Awdurdod

(a) Cyf. Gwastraff Trefol Soled (t)

(b) Cyf. Ailddefnyddio, Ailgylchu, Compostio LART (t)

(c) Cyfradd Ailddefnyddio, Ailgylchu, Compostio LART (%)

Targed LART (t)

(d) Gwahaniaeth i’r targed o ran canran (%)

(e) Gwahaniaeth i’r targed mewn tunelli

Blaenau Gwent

32,911

16,853

51.2%

17,114

-1.5%

-260

Pen-y-bont ar Ogwr

63,536

36,284

57.1%

33,039

9.8%

3,245

Caerffili

98,431

56,172

57.1%

51,184

9.7%

4,988

Caerdydd

174,103

90,950

52.2%

90,533

0.5%

416

Sir Gâr

71,188

38,280

53.8%

37,018

3.4%

1,262

Ceredigion

34,584

18,532

53.6%

17,984

3.0%

548

Conwy

66,812

37,712

56.4%

34,742

8.5%

2,970

Sir Ddinbych

43,543

25,262

58.0%

22,643

11.6%

2,620

Sir y Fflint

88,133

48,401

54.9%

45,829

5.6%

2,572

Gwynedd

76,976

39,412

51.2%

40,027

-1.5%

-616

Ynys Môn

41,942

23,162

55.2%

21,810

6.2%

1,352

Merthyr Tudful

29,518

14,504

49.1%

15,349

-5.5%

-845

Sir Fynwy

46,007

25,545

55.5%

23,924

6.8%

1,621

Castell-nedd Port Talbot

71,695

34,652

48.3%

37,282

-7.1%

-2,629

Dinas Casnewydd

65,802

32,362

49.2%

34,217

-5.4%

-1,855

Sir Benfro

64,516

34,283

53.1%

33,549

2.2%

735

Powys

78,683

40,088

50.9%

40,915

-2.0%

-827

Rhondda Cynon Taf

114,325

52,822

46.2%

59,449

-11.1%

-6,627

Abertawe

111,437

53,343

47.9%

57,947

-7.9%

-4,604

Torfaen

43,749

20,616

47.1%

22,749

-9.4%

-2,133

Bro Morgannwg

59,780

32,568

54.5%

31,086

4.8%

1,482

Wrecsam

75,840

40,063

52.8%

39,437

1.6%

626

Cymru

1,553,512

811,866

52.3%

807,826

0.5%

4,040

 

(a) cyfaint llawn y gwastraff trefol sy’n deillio o bob awdurdod lleol;

(b) cyfaint llawn y gwastraff trefol sydd wedi cael ei ailgylchu, ei baratoi i’w ailddefnyddio a’i gompostio, fel y’i dilyswyd gan yr awdurdod monitro;

(c) cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio pob awdurdod lleol;

(d) y gwahaniaeth rhwng cyfaint targed y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a’r gyfradd wirioneddol a gyflawnwyd gan bob awdurdod lleol; ac

(e) y gwahaniaeth rhwng cyfaint targed y cyfraddau ailgylchu, paratoi i ailddefnyddio a chompostio a’r gyfradd wirioneddol a gyflawnwyd gan yr awdurdodau lleol i gyd, gyda’i gilydd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Atodiad 2 – Faint o BMW a anfonwyd i safleoedd tirlenwi o’i gymharu â lwfans tirlenwi Awdurdodau Lleol Cymru yn 2012/13



[1] http://naturalresourceswales.gov.uk/our-work/policy-advice-guidance/waste-Policy/landfill-allowance-scheme/?lang=cy#.U5cK-SjqhJk